Dyma'r byd y mae taranau, Mellt, a chenllysg, daear-grỳn: Yn y wlad 'r wy'n myned iddi Nis câf weled yno'r un; Mynych ceir cystuddiau yma, Rhagluniaethau chwerwon iawn, Tòn ar ôl y llall yn rhuo O foreuddydd hyd brydnawn. Disgwyl pethau gwych i ddyfod, Croes i hyny maent yn d'od; Meddwl 'fory daw gorfoledd, 'Fory'r tristwch mwya' erioed; Meddwl byw, ac eto marw Yw'r lleferydd dàn fy mron: Bob yn ronyn, mi ro'f ffàrwel - Ffàrwel glân, i'r ddaear hon. Trof fy llygaid oddi amgylch, P'le caf bleser dan yr haul? Os a' i garu un creadur Megys pe na bai ei ail, Hwnw'n fuan ddiangc arnaf, Neu myfi oddi arno ef; Ni chaf bleser a gydgerddo A mi'n unlle dan y nef. Tragwyddoldeb! mawr yw d'enw, Ti mae'n ddiau yw fy lle; Huriwr un dïwrnod ydwyf, Fry mae'm cartref yn y ne': Mae'm diwrnod bron a gorphen, Mae fy haul bron myn'd i lawr; Mae pob awel yn fy chwythu Tua'r tragwyddoldeb mawr. 'Rwyf yn foddlawn iawn i ymado, Trefna'r awr, a threfna'r man, Ond yn ymchwydd yr Iorddonen Dal fy ysbryd llesg i'r lan; N'ad fi soddi yn y tonau Pan bo angeu'n fawr ei rym, 'Mafael ynof yn dy freichiau, Na'd i'm henaid ofni dim. P'am'r ymafael tristwch ynof Wrth fyfyrio am ado'r byd? Pechod a chystuddiau duon Welais ynddo oll i gyd; Ni ddaeth hanner fy nisgwyliad Yma etto erioed i ben; O! na wnaethwn yn foreuach Fy nghartrefle uwch y nen! Mae 'nghyfeillion wedi myned Draw yn lluoedd o fy mlaen, Rhai fu'n myn'd trwy ddyffryn Bacca Gyda mi tua Salem lân: Yn y dyffryn tywyll, garw, Ffydd i'r lan a'u daliodd hwy; Mae'r addewid lawn i minnau; Pam yr ofna'm henaid mwy mwy?William Williams 1717-91 Môr o Wydr 1762
Tonau [8787D]: gwelir: O am nerth i dreulio 'nyddiau Cofia f'enaid cyn it' dreulio Dyn dyeithr ydwyf yma Dysgwyl pethau gwych i ddyfod Ffarwel i chwi gynt a gerais Gair o bwys yw Trag'wyddoldeb Mae nghyfeillion wedi myned Mae'r anialwch wedi mlino O Iachawdwr pechaduriaid O ynfydrwydd! O ffolineb Pa fodd yr âf i trwy'r Iorddonen? Pam y caiff bwystfilod rheibus? 'R wyf yn foddlawn iawn i ymado Trag'wyddoldeb mawr yw d'enw |
Here is the world where there is thundering, Lightening, and hail, earth-quake: In the land I am going to I shall not see any there; Often afflictions are to be had here, Very bitter provisions, Waves one after another roaring From morning until evening. Expecting wonderful things to come, Contrary to this they are coming; Thinking tomorrow rejoicing shall come, Tomorrow the greatest sadness ever; Thinking living, and yet dying Is the utterance under my breast: Every moment, I will bid farewell - Farewell completely, to this earth. I turn my eyes from round about, Where may I get pleasure under the sun? If i go to love any creature As if there were none like it, That would soon escape from me, Or I from it; I shall get no pleasure that will accompany Me anywhere under heaven. Eternity! great is thy name, Thou, 'tis doubtless, art my place; A daily hireling am I, Above is my home in heaven: The day has almost finished, The sun has almost gone down; Every breeze is blowing me Towards the great eternity. I am very willing to leave, Arrange the hour, and arrange the place, But in the swelling of the Jordan Hold my feeble spirit up; Do not let me sing in the waves When death comes with its great force, Grasp me in thy arms, Do not let me fear anything. Why does sadness take hold of me While meditating on leaving the world? Sin and black afflictions All I saw in it altogether; Not even half my expectations came Here ever yet came to pass; O that I would make sooner My home above the sky! My companions have gone Yonder as hosts before me, Some went through the vale of Bacca With me towards holy Salem: In the dark, rough vale, 'Twas faith that held them up: The full promise is for me too; Why shall I my soul fear any more?tr. 2018 Richard B Gillion |
|